Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (186)v2 |
1 Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd (45 munud)
|
2 Cwestiynau i’r Gweinidog Tai ac Adfywio (45 munud)
|
3 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) NDM5448 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd gwasanaethau bysiau i bobl Cymru.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau sefydlogrwydd ar gyfer y diwydiant bysiau a theithwyr.
3. Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i ddiogelu gwasanaethau bysiau yng Nghymru.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn croesawu argymhelliad y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru i ddatganoli pŵer rheoleiddio dros fysiau i Lywodraeth Cymru.
Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn cydnabod bod angen Comisiynydd Traffig penodol i Gymru.
Gwelliant 3 - Lesley Griffiths (Wrecsam)
Ym mhwynt 3, ar ôl ‘Lywodraeth Cymru’ cynnwys ‘i gydweithio â’r diwydiant bysiau a phartneriaid eraill’
|
4 Dadl Plaid Cymru (60 munud) NDM5449 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod bod y Gymraeg yn sbarduno'r economi a bod ei ffyniant tymor hir fel iaith gymunedol yn dibynnu ar dwf economaidd rhanbarthol a lleol cryf.
2. Yn cydnabod bod gwariant gan Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus yn gallu dylanwadu’n drwm ar yr iaith.
3. Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru a’i phartneriaid ddatblygu polisïau i gefnogi’r iaith a hyrwyddo ei budd economaidd ar sail ardaloedd penodedig.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnwys asesiad o effaith ei pholisïau ar y Gymraeg yn ei Chanllawiau ar yr Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb.
|
5 Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud) NDM5450 Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod trafnidiaeth gyhoeddus ddiogel a fforddiadwy yn allweddol i alluogi pobl ifanc i gael gafael ar waith, addysg, hyfforddiant a phrentisiaethau.
2. Yn gresynu bod fforddiadwyedd trafnidiaeth gyhoeddus yn rhwystr sylweddol i weithwyr rhan-amser ac i ddewisiadau ôl-16 pobl ifanc.
3. Yn croesawu'r camau a gymerir gan rai awdurdodau lleol yng Nghymru i gyflwyno cynllun teithio rhatach i bobl ifanc ond yn gresynu bod amrywioldeb sylweddol mewn consesiynau yn arwain at loteri cod post o ran trafnidiaeth fforddiadwy i deithwyr ifanc.
4. Yn cydnabod cyflawniadau cynlluniau trafnidiaeth gymunedol gan gynnwys Bwcabus a Grass Routes o ran darparu trafnidiaeth hygyrch a hyblyg i gymunedau lleol.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) gweithio gyda gweithredwyr bysiau i gyflwyno cynllun teithio rhatach cenedlaethol i bobl ifanc drwy gyfradd ‘teithwyr ifanc’ newydd i bobl ifanc 16-18 oed a myfyrwyr;
b) archwilio dichonoldeb tocyn tymor i weithwyr rhan-amser;
c) archwilio'r potensial i ymestyn cynlluniau trafnidiaeth gymunedol fel Bwcabus a Grass Routes mewn ardaloedd gwledig; a
d) archwilio ffyrdd o ddatblygu rhwydwaith carbon isel o drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu’r ffaith fod gweithredwyr bysiau wrthi’n ystyried cynlluniau teithio rhatach i bobl ifanc a myfyrwyr. |
Cyfnod Pleidleisio |
6 Dadl Fer (30 munud) NDM5447 Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Adeiladwch hi ac mi ddôn nhw?
Yr achos dros reilffordd rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth. |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 18 Mawrth 2014